Gofal Diwedd Oes (Gofal Lliniarol)
Mae ein timau i gyd wedi'u contractio i ddarparu cefnogaeth i unigolion drwy Lwybr Cyflym Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae hyn yn golygu bod ein timau wedi'u hyfforddi i gefnogi unigolion y mae eu hiechyd yn dirywio'n gyflym, ac unigolion sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae ein timau'n darparu gwasanaeth sensitif a chefnogol sy'n galluogi unigolion i dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt i aros gartref.